Rydym yn cynnal dros 50 o raglenni hyfforddi arbenigol ac yn ymfalchïo mewn darparu rhagoriaeth ac arloesedd mewn hyfforddiant meddygol a deintyddol ôl-raddedig er mwyn sicrhau gofal o ansawdd a diogelwch cleifion yng Nghymru.
Cliciwch yma i weld yr arbenigeddau
Ein Gwerthoedd
Mae ein haddysgwyr proffesiynol sydd wedi'u hyfforddi'n dda yn sicrhau ein bod yn bodloni gofynion y Cyngor Meddygol Cyffredinol (GMC) a'r Cyngor Deintyddol Cyffredinol (GDC), yn ogystal â blaenoriaethau gofal iechyd y GIG a’r llywodraeth yng Nghymru. Yn ogystal, mae gan bob un o’n harbenigeddau werthoedd clir:
- Rhagoriaeth: Ymrwymiad i ddull proffesiynol, ymgysylltiedig a chynhwysfawr, yn seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch
- Ansawdd: Canolbwyntio ar y safonau addysg a hyfforddiant uchaf, sy'n sail i ofal a diogelwch sy’n canolbwyntio ar y claf
- Arloesedd: Annog arloesedd yn ein holl weithgareddau, drwy gyd-berchnogaeth gyda rhanddeiliaid
- Arweinyddiaeth: Sicrhau arweinyddiaeth strategol, teg, ymatebol ac ymarferol yn y ddarpariaeth addysg a hyfforddiant meddygol a deintyddol ôl-raddedig proffesiynol
Gwybodaeth bwysig am ein harbenigeddau
Back to top