O 1af Hydref 2018 bydd Deoniaeth Cymru/CCAFFB yn rhan o Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).
Bydd AaGIC yn awdurdod iechyd arbennig o fewn GIG Cymru, ac fe'i crëir drwy ddod â thri sefydliad allweddol ar gyfer iechyd at ei gilydd - Deoniaeth Cymru, Gwasanaethau Addysg Gweithlu a Datblygu GIG (GAGD), a Chanolfan Cymru Addysg Fferylliaeth Broffesiynol (CCAFFB).
Yn eistedd ochr yn ochr â byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau, bydd gan AaGIC rôl flaenllaw yn addysg, hyfforddiant, datblygu a siapio'r gweithlu gofal iechyd yng Nghymru. Bydd ei swyddogaethau allweddol yn cynnwys: addysg a hyfforddiant, datblygu'r gweithlu a diweddaru, datblygu arweinyddiaeth, cynllunio gweithlu strategol, cudd-wybodaeth y gweithlu, gyrfaoedd, ac ehangu mynediad.
Business hours
08:30 - 17:30 Mon - Fri
General enquiries
03300 585 005
heiw@wales.nhs.uk

Future Doctors and Dentists – Come and Train in Wales
A new campaign to promote Wales as an excellent place for doctors and dentist to train has been launched by the Wales Deanery, taking action to...

2016 GMC National Training Surveys: The Results & Key Themes
The GMC National Training Surveys for 2016 ran from 22/03 – 11/05. The annual surveys provide an opportunity for trainees & trainers to provide...

Ein Harbenigeddau
Rydym yn cynnal dros 50 o raglenni hyfforddi arbenigol ac yn ymfalchïo mewn darparu rhagoriaeth ac arloesedd mewn hyfforddiant meddygol a deintyddol ôl-raddedig er mwyn sicrhau gofal o ansawdd a diogelwch cleifion yng Nghymru.
Rydym yma i helpu
Mae Deoniaeth Cymru yn ymfalchïo yn y ffaith ei bod yn meithrin diwylliant cynhwysol a chefnogol ar gyfer ei staff a’i hyfforddeion. Mae gennym brosesau cynhwysfawr ar gyfer ymdrin â meddygon sy’n wynebu anawsterau, mae boddhad cyffredinol hyfforddeion yng Nghymru gyda’r gorau yn y DU, ac mae nifer o bryderon ynghylch hyfforddiant yn cael eu datrys cyn iddynt effeithio ar ddiogelwch cleifion, o ganlyniad i’n dull graddedig yn seiliedig ar risg o ymdrin â phryderon hyfforddeion a’n proses ymweld.

Digwyddiadau diweddaraf
There are currently no events.